1 Gwae y meibion cyndyn, medd yr Arglwydd, a gymerant gyngor, ond nid gennyf fi; ac a orchuddiant â gorchudd, ac nid o'm hysbryd i, i chwanegu pechod ar bechod:
2 Y rhai sydd yn myned i ddisgyn i'r Aifft, heb ymofyn â mi, i ymnerthu yn nerth Pharo, ac i ymddiried yng nghysgod yr Aifft.
3 Am hynny y bydd nerth Pharo yn gywilydd i chwi, a'r ymddiried yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd.
4 Canys bu ei dywysogion yn Soan, a'i genhadau a ddaethant i Hanes.
5 Hwynt oll a gywilyddiwyd oherwydd y bobl ni fuddia iddynt, ni byddant yn gynhorthwy nac yn llesâd, eithr yn warth ac yn waradwydd.