11 Ciliwch o'r ffordd, ciliwch o'r llwybr; perwch i Sanct Israel beidio â ni.
12 Am hynny fel hyn y dywed Sanct Israel, Am wrthod ohonoch y gair hwn, ac ymddiried ohonoch mewn twyll a cham, a phwyso ar hynny:
13 Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi fel rhwygiad chwyddedig mewn mur uchel ar syrthio, yr hwn y daw ei ddrylliad yn ddisymwth heb atreg.
14 Canys efe a'i dryllia hi fel dryllio llestr crochenydd, gan guro heb arbed; fel na chaffer ymysg ei darnau gragen i gymryd tân o'r aelwyd, nac i godi dwfr o'r ffos.
15 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Sanct Israel, Trwy ddychwelyd a gorffwys y byddwch gadwedig; mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid: ond ni fynnech.
16 Eithr dywedasoch, Nid felly; canys ni a ffown ar feirch; am hynny y ffowch: a marchogwn ar feirch buain; am hynny y bydd buain y rhai a'ch erlidio.
17 Mil a ffy wrth gerydd un; ac wrth gerydd pump y ffowch, hyd oni'ch gadawer megis hwylbren ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn.