15 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Sanct Israel, Trwy ddychwelyd a gorffwys y byddwch gadwedig; mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid: ond ni fynnech.
16 Eithr dywedasoch, Nid felly; canys ni a ffown ar feirch; am hynny y ffowch: a marchogwn ar feirch buain; am hynny y bydd buain y rhai a'ch erlidio.
17 Mil a ffy wrth gerydd un; ac wrth gerydd pump y ffowch, hyd oni'ch gadawer megis hwylbren ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn.
18 Ac am hynny y disgwyl yr Arglwydd i drugarhau wrthych, ie, am hynny yr ymddyrchaif i dosturio wrthych; canys Duw cyfiawnder yw yr Arglwydd. Gwyn eu byd y rhai oll a ddisgwyliant wrtho.
19 Canys y bobl a drig yn Seion o fewn Jerwsalem: gan wylo nid wyli; gan drugarhau efe a drugarha wrthyt; wrth lef dy waedd, pan ei clywo, efe a'th ateb di.
20 A'r Arglwydd a rydd i chwi fara ing a dwfr gorthrymder, ond ni chornelir dy athrawon mwy, eithr dy lygaid fyddant yn gweled dy athrawon:
21 A'th glustiau a glywant air o'th ôl yn dywedyd, Dyma y ffordd, rhodiwch ynddi, pan bwysoch ar y llaw ddeau, neu pan bwysoch ar y llaw aswy.