20 A'r Arglwydd a rydd i chwi fara ing a dwfr gorthrymder, ond ni chornelir dy athrawon mwy, eithr dy lygaid fyddant yn gweled dy athrawon:
21 A'th glustiau a glywant air o'th ôl yn dywedyd, Dyma y ffordd, rhodiwch ynddi, pan bwysoch ar y llaw ddeau, neu pan bwysoch ar y llaw aswy.
22 Yna yr halogwch ball dy gerfddelw arian, ac effod dy dawdd‐ddelw aur; gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf, a dywedi wrthynt, Dos ymaith.
23 Ac efe a rydd law i'th had pan heuech dy dir, a bara cnwd y ddaear, ac efe a fydd yn dew ac yn aml; a'r dydd hwnnw y pawr dy anifeiliaid mewn porfa helaeth.
24 Dy ychen hefyd a'th asynnod, y rhai a lafuriant y tir, a borant ebran pur, yr hwn a nithiwyd â gwyntyll ac â gogr.
25 Bydd hefyd ar bob mynydd uchel, ac ar bob bryn dyrchafedig, afonydd a ffrydiau dyfroedd, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio y tyrau.
26 A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod, yn y dydd y rhwyma yr Arglwydd friw ei bobl, ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt.