24 Dy ychen hefyd a'th asynnod, y rhai a lafuriant y tir, a borant ebran pur, yr hwn a nithiwyd â gwyntyll ac â gogr.
25 Bydd hefyd ar bob mynydd uchel, ac ar bob bryn dyrchafedig, afonydd a ffrydiau dyfroedd, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio y tyrau.
26 A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod, yn y dydd y rhwyma yr Arglwydd friw ei bobl, ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt.
27 Wele enw yr Arglwydd yn dyfod o bell, yn llosgi gan ei ddigofaint ef, a'i faich sydd drwm; ei wefusau a lanwyd o ddicter, a'i dafod sydd megis tân ysol.
28 Ei anadl hefyd, megis afon lifeiriol, a gyrraedd hyd hanner y gwddf, i nithio'r cenhedloedd â gogr oferedd; a bydd ffrwyn yng ngenau y bobloedd, yn eu gyrru ar gyfeiliorn.
29 Y gân fydd gennych megis y noswaith y sancteiddir uchel ŵyl; a llawenydd calon, megis pan elo un â phibell i fyned i fynydd yr Arglwydd, at Gadarn yr Israel.
30 A'r Arglwydd a wna glywed ardderchowgrwydd ei lais, ac a ddengys ddisgyniad ei fraich, mewn dicter llidiog, ac â fflam dân ysol, â gwasgarfa, ac â thymestl, ac â cherrig cenllysg.