29 Y gân fydd gennych megis y noswaith y sancteiddir uchel ŵyl; a llawenydd calon, megis pan elo un â phibell i fyned i fynydd yr Arglwydd, at Gadarn yr Israel.
30 A'r Arglwydd a wna glywed ardderchowgrwydd ei lais, ac a ddengys ddisgyniad ei fraich, mewn dicter llidiog, ac â fflam dân ysol, â gwasgarfa, ac â thymestl, ac â cherrig cenllysg.
31 Canys â llais yr Arglwydd y distrywir Assur, yr hwn a drawai â'r wialen.
32 A pha le bynnag yr elo y wialen ddiysgog, yr hon a esyd yr Arglwydd arno ef, gyda thympanau a thelynau y bydd: ac â rhyfel tost yr ymladd efe yn ei erbyn.
33 Canys darparwyd Toffet er doe, ie, paratowyd hi i'r brenin: efe a'i dyfnhaodd hi, ac a'i ehangodd: ei chyneuad sydd dân a choed lawer; anadl yr Arglwydd, megis afon o frwmstan, sydd yn ei hennyn hi.