4 Canys bu ei dywysogion yn Soan, a'i genhadau a ddaethant i Hanes.
5 Hwynt oll a gywilyddiwyd oherwydd y bobl ni fuddia iddynt, ni byddant yn gynhorthwy nac yn llesâd, eithr yn warth ac yn waradwydd.
6 Baich anifeiliaid y deau. I dir cystudd ac ing, lle y daw ohonynt yr hen lew a'r llew ieuanc, y wiber a'r sarff danllyd hedegog, y dygant eu golud ar gefnau asynnod, a'u trysorau ar gefnau camelod, at bobl ni wna les.
7 Canys yn ddi‐les ac yn ofer y cynorthwya yr Eifftiaid: am hynny y llefais arni, Eu nerth hwynt yw aros yn llonydd.
8 Dos yn awr, ysgrifenna hyn mewn llech ger eu bron hwynt, ac ysgrifenna mewn llyfr, fel y byddo hyd y dydd diwethaf yn oes oesoedd;
9 Mai pobl wrthryfelgar yw y rhai hyn, plant celwyddog, plant ni fynnant wrando cyfraith yr Arglwydd:
10 Y rhai a ddywedant wrth y gweledyddion, Na welwch; ac wrth y proffwydi, Na phroffwydwch i ni bethau uniawn; traethwch i ni weniaith, proffwydwch i ni siomedigaeth: