1 Wele, brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion a lywodraethant mewn barn.
2 A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymestl; megis afonydd dyfroedd mewn sychdir, megis cysgod craig fawr mewn tir sychedig.
3 Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir, a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant.
4 Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth, a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur.
5 Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw.