3 Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir, a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant.
4 Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth, a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur.
5 Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw.
6 Canys coegwr a draetha goegni, a'i galon a wna anwiredd, i ragrithio, ac i draethu amryfusedd yn erbyn yr Arglwydd, i ddiddymu enaid y newynog; ac efe a wna i ddiod y sychedig ballu.
7 Arfau y cybydd sydd ddrygionus: efe a ddychymyg ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau, pan draetho yr anghenus yr uniawn.
8 Ond yr hael a ddychymyg haelioni; ac ar haelioni y saif efe.
9 Cyfodwch, wragedd di‐waith; clywch fy llais: gwrandewch fy ymadrodd, ferched diofal.