16 Efe a breswylia yr uchelderau; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd sicr.
17 Dy lygaid a welant y brenin yn ei degwch: gwelant y tir pell.
18 Dy galon a fyfyria ofn; pa le y mae yr ysgrifennydd? pa le y mae y trysorwr? pa le y mae rhifwr y tyrau?
19 Ni chei weled pobl greulon, pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di, neu floesg dafod, fel na ddeallech.
20 Gwêl Seion, dinas ein cyfarfod: dy lygaid a welant Jerwsalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ac ni syflir un o'i hoelion byth, ac ni thorrir un o'i rhaffau.
21 Eithr yr Arglwydd ardderchog fydd yno i ni, yn fangre afonydd a ffrydiau llydain: y rhwyflong nid â trwyddo, a llong odidog nid â drosto.
22 Canys yr Arglwydd yw ein barnwr, yr Arglwydd yw ein deddfwr, yr Arglwydd yw ein brenin; efe a'n ceidw.