19 Ni chei weled pobl greulon, pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di, neu floesg dafod, fel na ddeallech.
20 Gwêl Seion, dinas ein cyfarfod: dy lygaid a welant Jerwsalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ac ni syflir un o'i hoelion byth, ac ni thorrir un o'i rhaffau.
21 Eithr yr Arglwydd ardderchog fydd yno i ni, yn fangre afonydd a ffrydiau llydain: y rhwyflong nid â trwyddo, a llong odidog nid â drosto.
22 Canys yr Arglwydd yw ein barnwr, yr Arglwydd yw ein deddfwr, yr Arglwydd yw ein brenin; efe a'n ceidw.
23 Gollyngasant dy raffau, ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn, ni thaenasant yr hwyl; yna y rhennir ysglyfaeth ysbail fawr, y cloffion a ysglyfaethant yr ysglyfaeth.
24 Ac ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf: maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi.