1 Nesewch, genhedloedd, i glywed, a gwrandewch, bobloedd; gwrandawed y ddaear ac oll y sydd ynddi, y byd a'i holl gnwd.
2 Canys llidiowgrwydd yr Arglwydd sydd ar yr holl genhedloedd, a'i soriant ar eu holl luoedd hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i'r lladdfa.
3 A'u lladdedigion a fwrir allan, a'u drewiant o'u celanedd a gyfyd i fyny, y mynyddoedd hefyd a doddant o'u gwaed hwynt.
4 Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a'r nefoedd a blygir fel llyfr: a'i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o'r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren.
5 Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd: wele, ar Edom y disgyn i farn, ac ar y bobl a ysgymunais.