4 Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a'r nefoedd a blygir fel llyfr: a'i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o'r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren.
5 Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd: wele, ar Edom y disgyn i farn, ac ar y bobl a ysgymunais.
6 Cleddyf yr Arglwydd a lanwyd o waed, tewychodd gan fraster, a chan waed ŵyn a bychod, gan fraster arennau hyrddod: canys mae i'r Arglwydd aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom.
7 A disgyn yr unicorniaid gyda hwynt, a'r bustych gyda'r teirw; a'u tir hwynt a feddwa o'u gwaed hwynt, a'u llwch fydd dew o fraster.
8 Canys diwrnod dial yr Arglwydd, blwyddyn taledigaeth yn achos Seion, yw.
9 A'i hafonydd a droir yn byg, a'i llwch yn frwmstan, a'i daear yn byg llosgedig.
10 Nis diffoddir nos na dydd; ei mwg a ddring byth: o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi; ni bydd cyniweirydd trwyddi byth bythoedd.