1 Yr anialwch a'r anghyfanheddle a lawenychant o'u plegid; y diffeithwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn.
2 Gan flodeuo y blodeua, ac y llawenycha hefyd â llawenydd ac â chân: gogoniant Libanus a roddir iddo, godidowgrwydd Carmel a Saron: hwy a welant ogoniant yr Arglwydd, a godidowgrwydd ein Duw ni.
3 Cadarnhewch y dwylo llesg, a chryfhewch y gliniau gweiniaid.
4 Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon, Ymgryfhewch, nac ofnwch: wele, eich Duw chwi a ddaw â dial, ie, Duw â thaledigaeth; efe a ddaw, ac a'ch achub chwi.
5 Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir.