20 Yr awr hon gan hynny, O Arglwydd ein Duw, achub ni o'i law ef; fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai ti yw yr Arglwydd, tydi yn unig.
21 Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Oherwydd i ti weddïo ataf fi yn erbyn Senacherib brenin Asyria:
22 Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef; Y forwyn merch Seion a'th ddirmygodd, ac a'th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl.
23 Pwy a ddifenwaist ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist dy lef, ac y cyfodaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel.
24 Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd, a'i ddewis ffynidwydd; af hefyd i'w gwr uchaf, ac i goed ei ddoldir.
25 Myfi a gloddiais, ac a yfais ddwfr; â gwadnau fy nhraed hefyd y sychais holl afonydd y gwarchaeëdig.
26 Oni chlywaist wneuthur ohonof hyn er ys talm, a'i lunio er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddistrywio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol.