34 Ar hyd yr un ffordd ag y daeth y dychwel, ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr Arglwydd.
35 Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i'w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.
36 Yna yr aeth angel yr Arglwydd, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid gant a phedwar ugain a phump o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.
37 Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.
38 A bu, fel yr ydoedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion, ei daro ef â'r cleddyf; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia. Ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.