4 Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i'w gael.
5 Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.
6 A dywedodd Eseia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.
7 Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i'w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.
8 Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn rhyfela yn erbyn Libna: canys efe a glywsai ddarfod iddo fyned o Lachis.
9 Ac efe a glywodd sôn am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Efe a aeth allan i ryfela â thi. A phan glywodd hynny, efe a anfonodd genhadau at Heseceia, gan ddywedyd,
10 Fel hyn y dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria.