5 Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.
6 A dywedodd Eseia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.
7 Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i'w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.
8 Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn rhyfela yn erbyn Libna: canys efe a glywsai ddarfod iddo fyned o Lachis.
9 Ac efe a glywodd sôn am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Efe a aeth allan i ryfela â thi. A phan glywodd hynny, efe a anfonodd genhadau at Heseceia, gan ddywedyd,
10 Fel hyn y dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria.
11 Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt; ac a waredir di?