1 Cysurwch, cysurwch fy mhobl, medd eich Duw.
2 Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd: oherwydd derbyniodd o law yr Arglwydd yn ddauddyblyg am ei holl bechodau.
3 Llef un yn llefain yn yr anialwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch lwybr i'n Duw ni yn y diffeithwch.
4 Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gŵyr a wneir yn union, a'r anwastad yn wastadedd.
5 A gogoniant yr Arglwydd a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd a'i gwêl; canys genau yr Arglwydd a lefarodd hyn.
6 Y llef a ddywedodd, Gwaedda. Yntau a ddywedodd, Beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes.