14 A phwy yr ymgynghorodd efe, ie, pwy a'i cyfarwyddodd, ac a'i dysgodd yn llwybr barn, ac a ddysgodd iddo wybodaeth, ac a ddangosodd iddo ffordd dealltwriaeth?
15 Wele, y cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel mân lwch y cloriannau; wele, fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny.
16 Ac nid digon Libanus i gynnau tân; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm.
17 Yr holl genhedloedd ydynt megis diddim ger ei fron ef; yn llai na dim, ac na gwagedd, y cyfrifwyd hwynt ganddo.
18 I bwy gan hynny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch iddo?
19 Y crefftwr a dawdd gerfddelw, a'r eurych a'i goreura, ac a dawdd gadwyni arian.
20 Yr hwn sydd dlawd ei offrwm a ddewis bren ni phydra; efe a gais ato saer cywraint, i baratoi cerfddelw, yr hon ni syfl.