16 Ac nid digon Libanus i gynnau tân; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm.
17 Yr holl genhedloedd ydynt megis diddim ger ei fron ef; yn llai na dim, ac na gwagedd, y cyfrifwyd hwynt ganddo.
18 I bwy gan hynny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch iddo?
19 Y crefftwr a dawdd gerfddelw, a'r eurych a'i goreura, ac a dawdd gadwyni arian.
20 Yr hwn sydd dlawd ei offrwm a ddewis bren ni phydra; efe a gais ato saer cywraint, i baratoi cerfddelw, yr hon ni syfl.
21 Oni wybuoch? oni chlywsoch? oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad? oni ddeallasoch er seiliad y ddaear?
22 Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a'i thrigolion sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a'i lleda fel pabell i drigo ynddi: