23 Yr hwn a wna lywodraethwyr yn ddiddim; fel gwagedd y gwna efe farnwyr y ddaear.
24 Ie, ni phlennir hwynt, nis heuir chwaith; ei foncyff hefyd ni wreiddia yn y ddaear: ac efe a chwyth arnynt, a hwy a wywant, a chorwynt a'u dwg hwynt ymaith fel sofl.
25 I bwy gan hynny y'm cyffelybwch, ac y'm cystedlir? medd y Sanct.
26 Dyrchefwch eich llygaid i fyny, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi: efe a'u geilw hwynt oll wrth eu henwau; gan amlder ei rym ef, a'i gadarn allu, ni phalla un.
27 Paham y dywedi, Jacob, ac y lleferi, Israel, Cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr Arglwydd, a'm barn a aeth heibio i'm Duw?
28 Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina Duw tragwyddoldeb, yr Arglwydd, Creawdwr cyrrau y ddaear? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef.
29 Yr hwn a rydd nerth i'r diffygiol, ac a amlha gryfder i'r di‐rym.