28 Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina Duw tragwyddoldeb, yr Arglwydd, Creawdwr cyrrau y ddaear? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef.
29 Yr hwn a rydd nerth i'r diffygiol, ac a amlha gryfder i'r di‐rym.
30 Canys yr ieuenctid a ddiffygia ac a flina, a'r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant:
31 Eithr y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant; rhodiant, ac ni ddiffygiant.