3 Llef un yn llefain yn yr anialwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch lwybr i'n Duw ni yn y diffeithwch.
4 Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gŵyr a wneir yn union, a'r anwastad yn wastadedd.
5 A gogoniant yr Arglwydd a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd a'i gwêl; canys genau yr Arglwydd a lefarodd hyn.
6 Y llef a ddywedodd, Gwaedda. Yntau a ddywedodd, Beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes.
7 Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; canys ysbryd yr Arglwydd a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw y bobl.
8 Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; ond gair ein Duw ni a saif byth.
9 Dring rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel; dyrchafa dy lef trwy nerth, O efengyles Jerwsalem: dyrchafa, nac ofna; dywed wrth ddinasoedd Jwda, Wele eich Duw chwi.