5 A gogoniant yr Arglwydd a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd a'i gwêl; canys genau yr Arglwydd a lefarodd hyn.
6 Y llef a ddywedodd, Gwaedda. Yntau a ddywedodd, Beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes.
7 Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; canys ysbryd yr Arglwydd a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw y bobl.
8 Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; ond gair ein Duw ni a saif byth.
9 Dring rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel; dyrchafa dy lef trwy nerth, O efengyles Jerwsalem: dyrchafa, nac ofna; dywed wrth ddinasoedd Jwda, Wele eich Duw chwi.
10 Wele, yr Arglwydd Dduw a ddaw yn erbyn y cadarn, a'i fraich a lywodraetha drosto: wele ei wobr gydag ef, a'i waith o'i flaen.
11 Fel bugail y portha efe ei braidd; â'i fraich y casgl ei ŵyn, ac a'u dwg yn ei fynwes, ac a goledda y mamogiaid.