9 Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y'th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni'th wrthodais.
10 Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy Dduw: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder.
11 Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir.
12 Ti a'u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant â thi: y gwŷr a ryfelant â thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim.
13 Canys myfi yr Arglwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a'th gynorthwyaf.
14 Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a'th gynorthwyaf, medd yr Arglwydd, a'th Waredydd, Sanct Israel.
15 Wele, gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg.