1 Ac yn awr gwrando, Jacob fy ngwas, ac Israel yr hwn a ddewisais.
2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a'th wnaeth, ac a'th luniodd o'r groth, efe a'th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais.
3 Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf fy Ysbryd ar dy had, a'm bendith ar dy hiliogaeth:
4 A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.
5 Hwn a ddywed, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi; a'r llall a'i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifenna â'i law, Eiddo yr Arglwydd ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel.
6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Brenin Israel, a'i Waredydd, Arglwydd y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes Duw ond myfi.