3 Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf fy Ysbryd ar dy had, a'm bendith ar dy hiliogaeth:
4 A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.
5 Hwn a ddywed, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi; a'r llall a'i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifenna â'i law, Eiddo yr Arglwydd ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel.
6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Brenin Israel, a'i Waredydd, Arglwydd y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes Duw ond myfi.
7 Pwy hefyd, fel fi, a eilw, a fynega, ac a esyd hyn yn drefnus i mi, er pan osodais yr hen bobl? neu mynegant iddynt y pethau sydd ar ddyfod, a'r pethau a ddaw.
8 Nac ofnwch, ac nac arswydwch; onid er hynny o amser y traethais i ti, ac y mynegais? a'm tystion ydych chwi. A oes Duw ond myfi? ie, nid oes Duw: nid adwaen i yr un.
9 Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymunol lesâd: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt.