6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Brenin Israel, a'i Waredydd, Arglwydd y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes Duw ond myfi.
7 Pwy hefyd, fel fi, a eilw, a fynega, ac a esyd hyn yn drefnus i mi, er pan osodais yr hen bobl? neu mynegant iddynt y pethau sydd ar ddyfod, a'r pethau a ddaw.
8 Nac ofnwch, ac nac arswydwch; onid er hynny o amser y traethais i ti, ac y mynegais? a'm tystion ydych chwi. A oes Duw ond myfi? ie, nid oes Duw: nid adwaen i yr un.
9 Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymunol lesâd: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt.
10 Pwy a luniai dduw, neu a fwriai ddelw gerfiedig, heb wneuthur dim lles?
11 Wele, ei holl gyfeillion a gywilyddir, y seiri hefyd, o ddynion y maent: casgler hwynt oll, safant i fyny; eto hwy a ofnant, ac a gydgywilyddiant.
12 Y gof â'r efel a weithia yn y glo, ac a'i llunia â morthwylion, ac â nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a'i nerth a balla; nid yf ddwfr, ac y mae yn diffygio.