1 Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw, i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o'i flaen ef; a'r pyrth ni chaeir:
2 Mi a af o'th flaen di, ac a unionaf y gwyrgeimion; y dorau pres a dorraf, a'r barrau heyrn a ddrylliaf:
3 Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr Arglwydd, yr hwn a'th alwodd erbyn dy enw, yw Duw Israel.
4 Er mwyn Jacob fy ngwas, ac Israel fy etholedig, y'th elwais erbyn dy enw: mi a'th gyfenwais, er na'm hadwaenit.
5 Myfi ydwyf yr Arglwydd, ac nid arall, nid oes Duw ond myfi; gwregysais di, er na'm hadwaenit:
6 Fel y gwypont o godiad haul, ac o'r gorllewin, nad neb ond myfi: myfi yw yr Arglwydd, ac nid arall:
7 Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch; yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll.