12 Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn arni: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd.
13 Myfi a'i cyfodais ef mewn cyfiawnder, a'i holl ffyrdd a gyfarwyddaf; efe a adeilada fy ninas, efe a ollwng fy ngharcharorion, heb na gwerth na gobrwy, medd Arglwydd y lluoedd.
14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Llafur yr Aifft, a marsiandïaeth Ethiopia, a'r Sabeaid hirion, a ddeuant atat ti, ac eiddot ti fyddant; ar dy ôl y deuant; mewn cadwyni y deuant trosodd, ac ymgrymant i ti; atat y gweddïant, gan ddywedyd, Yn ddiau ynot ti y mae Duw, ac nid oes arall, nac oes Duw.
15 Ti yn ddiau wyt Dduw yn ymguddio, O Dduw Israel yr Achubwr!
16 Cywilyddir a gwaradwyddir hwynt oll; seiri delwau a ânt ynghyd i waradwydd.
17 Israel a achubir yn yr Arglwydd â iachawdwriaeth dragwyddol: ni'ch cywilyddir ac ni'ch gwaradwyddir byth bythoedd.
18 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Creawdydd y nefoedd, y Duw ei hun a luniodd y ddaear, ac a'i gwnaeth; efe a'i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i'w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr Arglwydd, ac nid neb amgen.