17 Israel a achubir yn yr Arglwydd â iachawdwriaeth dragwyddol: ni'ch cywilyddir ac ni'ch gwaradwyddir byth bythoedd.
18 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Creawdydd y nefoedd, y Duw ei hun a luniodd y ddaear, ac a'i gwnaeth; efe a'i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i'w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr Arglwydd, ac nid neb amgen.
19 Ni leferais mewn dirgelwch, mewn man tywyll o'r ddaear; ni ddywedais wrth had Jacob, Ceisiwch fi yn ofer. Myfi yr Arglwydd wyf yn llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi pethau uniawn.
20 Ymgesglwch, a deuwch; cydnesewch, rai dihangol y cenhedloedd; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a weddïant dduw ni all achub.
21 Mynegwch, a nesewch hwynt; cydymgynghorant hefyd; pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a'i mynegodd er y pryd hwnnw? onid myfi yr Arglwydd? ac nid oes Duw arall ond myfi; yn Dduw cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ond myfi.
22 Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrrau y ddaear, fel y'ch achuber: canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall.
23 I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o'm genau mewn cyfiawnder, ac ni ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod.