1 Crymodd Bel, plygodd Nebo; eu delwau oedd ar fwystfilod ac ar anifeiliaid: eich clud a lwythwyd yn drwm; llwyth ydynt i'r diffygiol.
2 Gostyngant, cydgrymant: ni allent achub y llwyth, ond aethant mewn caethiwed eu hunain.
3 Tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o'r groth, ac a arweddwyd o'r bru:
4 Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a'ch dygaf hyd oni benwynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd; ie, dygaf, a gwaredaf chwi.
5 I bwy y'm gwnewch yn debyg, ac y'm cystedlwch, ac y'm cyffelybwch, fel y byddom debyg?
6 Hwy a wastraffant aur o'r pwrs, ac a bwysant arian mewn clorian, a gyflogant eurych, ac efe a'i gweithia yn dduw: gostyngant, ac ymgrymant.