3 Tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o'r groth, ac a arweddwyd o'r bru:
4 Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a'ch dygaf hyd oni benwynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd; ie, dygaf, a gwaredaf chwi.
5 I bwy y'm gwnewch yn debyg, ac y'm cystedlwch, ac y'm cyffelybwch, fel y byddom debyg?
6 Hwy a wastraffant aur o'r pwrs, ac a bwysant arian mewn clorian, a gyflogant eurych, ac efe a'i gweithia yn dduw: gostyngant, ac ymgrymant.
7 Dygant ef ar ysgwyddau, dygant ef, ac a'i gosodant yn ei le, ac efe a saif; ni syfl o'i le: os llefa un arno, nid etyb, ac nis gwared ef o'i gystudd.
8 Cofiwch hyn, a byddwch wŷr: atgofiwch, droseddwyr.
9 Cofiwch y pethau gynt erioed; canys myfi ydwyf Dduw, ac nid neb arall; Duw ydwyf, ac heb fy math;