9 Cofiwch y pethau gynt erioed; canys myfi ydwyf Dduw, ac nid neb arall; Duw ydwyf, ac heb fy math;
10 Yn mynegi y diwedd o'r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto, yn dywedyd, Fy nghyngor a saif, a'm holl ewyllys a wnaf:
11 Yn galw aderyn o'r dwyrain, y gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell: dywedais, a mi a'i dygaf i ben; mi a'i lluniais, a mi a'i gwnaf.
12 Gwrandewch arnaf fi, y rhai cedyrn galon, y rhai pell oddi wrth gyfiawnder:
13 Neseais fy nghyfiawnder; ni bydd bell, a'm hiachawdwriaeth nid erys: rhoddaf hefyd iachawdwriaeth yn Seion i'm gogoniant Israel.