1 Disgyn, ac eistedd yn y llwch, ti forwynferch Babilon, eistedd ar lawr: nid oes orseddfainc, ti ferch y Caldeaid; canys ni'th alwant mwy yn dyner ac yn foethus.
2 Cymer y meini melin, a mala flawd; datguddia dy lywethau, noetha dy sodlau, dinoetha dy forddwydydd, dos trwy yr afonydd.
3 Dy noethni a ddatguddir, dy warth hefyd a welir: dialaf, ac nid fel dyn y'th gyfarfyddaf.
4 Ein gwaredydd ni, ei enw yw Arglwydd y lluoedd, Sanct Israel.