3 Dy noethni a ddatguddir, dy warth hefyd a welir: dialaf, ac nid fel dyn y'th gyfarfyddaf.
4 Ein gwaredydd ni, ei enw yw Arglwydd y lluoedd, Sanct Israel.
5 Eistedd yn ddistaw, a dos i dywyllwch, ti ferch y Caldeaid: canys ni'th alwant mwy yn Arglwyddes y teyrnasoedd.
6 Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, a rhoddais hwynt yn dy law di: ni chymeraist drugaredd arnynt; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid.
7 A dywedaist, Byth y byddaf arglwyddes: felly nid ystyriaist hyn, ac ni chofiaist ei diwedd hi.
8 Am hynny yn awr gwrando hyn, y foethus, yr hon a drigi yn ddiofal, yr hon a ddywedi yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb ond myfi: nid eisteddaf yn weddw, ac ni chaf wybod beth yw diepiledd.
9 Ond y ddau beth hyn a ddaw i ti yn ddisymwth yr un dydd, diepiledd a gweddwdod: yn gwbl y deuant arnat, am amlder dy hudoliaethau, a mawr nerth dy swynion.