6 Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, a rhoddais hwynt yn dy law di: ni chymeraist drugaredd arnynt; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid.
7 A dywedaist, Byth y byddaf arglwyddes: felly nid ystyriaist hyn, ac ni chofiaist ei diwedd hi.
8 Am hynny yn awr gwrando hyn, y foethus, yr hon a drigi yn ddiofal, yr hon a ddywedi yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb ond myfi: nid eisteddaf yn weddw, ac ni chaf wybod beth yw diepiledd.
9 Ond y ddau beth hyn a ddaw i ti yn ddisymwth yr un dydd, diepiledd a gweddwdod: yn gwbl y deuant arnat, am amlder dy hudoliaethau, a mawr nerth dy swynion.
10 Canys ymddiriedaist yn dy ddrygioni: dywedaist, Ni'm gwêl neb. Dy ddoethineb a'th wybodaeth a'th hurtiant; a dywedaist yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb arall ond myfi.
11 Am hynny y daw arnat ddrygfyd, yr hwn ni chei wybod ei gyfodiad; a syrth arnat ddinistr nis gelli ei ochelyd: ie, daw arnat ddistryw yn ddisymwth, heb wybod i ti.
12 Saf yn awr gyda'th swynion, a chydag amlder dy hudoliaethau, yn y rhai yr ymflinaist o'th ieuenctid; i edrych a elli wneuthur lles, i edrych a fyddi grymus.