16 Wele, ar gledr fy nwylo y'th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser.
17 Dy blant a frysiant; y rhai a'th ddinistriant, ac a'th ddistrywiant, a ânt allan ohonot.
18 Dyrcha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych: y rhai hyn oll a ymgasglant, ac a ddeuant atat. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg, ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch.
19 Canys dy ddiffeithwch a'th anialwch, a'th dir dinistriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr; a'r rhai a'th lyncant a ymbellhânt.
20 Plant dy ddiepiledd a ddywedant eto lle y clywych, Cyfyng yw y lle hwn i mi; dod le i mi, fel y preswyliwyf.
21 Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddiepil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rhai hyn? Wele, myfi a adawyd fy hunan; o ba le y daeth y rhai hyn?
22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau.