6 Ac efe a ddywedodd, Gwael yw dy fod yn was i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferu rhai cadwedig Israel: mi a'th roddaf hefyd yn oleuni i'r Cenhedloedd, fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear.
7 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwaredydd Israel, a'i Sanct, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; Brenhinoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr Arglwydd, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a'th ddewisodd di.
8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Mewn amser bodlongar y'th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y'th gynorthwyais; a mi a'th gadwaf, ac a'th roddaf yn gyfamod y bobl, i sicrhau y ddaear, i beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanheddol;
9 Fel y dywedych wrth y carcharorion, Ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, Ymddangoswch. Ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl uchelfannau y bydd eu porfa hwynt.
10 Ni newynant, ac ni sychedant; ac nis tery gwres na haul hwynt: oherwydd yr hwn a dosturia wrthynt a'u tywys, ac a'u harwain wrth y ffynhonnau dyfroedd.
11 A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd, a'm priffyrdd a gyfodir.
12 Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell: ac wele, y rhai acw o'r gogledd, ac o'r gorllewin; a'r rhai yma o dir Sinim.