1 Canaf yr awr hon i'm hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i'm hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon:
2 Ac efe a'i cloddiodd hi, ac a'i digaregodd, ac a'i plannodd o'r winwydden orau, ac a adeiladodd dŵr yn ei chanol, ac a drychodd winwryf ynddi: ac efe a ddisgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddug rawn gwylltion.
3 Ac yr awr hon, preswylwyr Jerwsalem, a gwŷr Jwda, bernwch, atolwg, rhyngof fi a'm gwinllan.
4 Beth oedd i'w wneuthur ychwaneg i'm gwinllan, nag a wneuthum ynddi? paham, a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dug hi rawn gwylltion?
5 Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i'm gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi; torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa;