1 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pa le y mae llythyr ysgar eich mam, trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith? neu pwy o'm dyledwyr y gwerthais chwi iddo? Wele, am eich anwireddau yr ymwerthasoch, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam.
2 Paham, pan ddeuthum, nad oedd neb i'm derbyn? pan elwais, nad atebodd neb? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared? neu onid oes ynof nerth i achub? wele, â'm cerydd y sychaf y môr, gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch: eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr, ac a fyddant feirw o syched.
3 Gwisgaf y nefoedd â thywyllwch, a gosodaf sachliain yn do iddynt.
4 Yr Arglwydd Dduw a roddes i mi dafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol: deffry fi bob bore, deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig.
5 Yr Arglwydd Dduw a agorodd fy nghlust, a minnau ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ôl.