3 Gwisgaf y nefoedd â thywyllwch, a gosodaf sachliain yn do iddynt.
4 Yr Arglwydd Dduw a roddes i mi dafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol: deffry fi bob bore, deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig.
5 Yr Arglwydd Dduw a agorodd fy nghlust, a minnau ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ôl.
6 Fy nghorff a roddais i'r curwyr, a'm cernau i'r rhai a dynnai y blew: ni chuddiais fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd.
7 Oherwydd yr Arglwydd Dduw a'm cymorth; am hynny ni'm cywilyddir: am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na'm cywilyddir.
8 Agos yw yr hwn a'm cyfiawnha; pwy a ymryson â mi? safwn ynghyd: pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesaed ataf.
9 Wele, yr Arglwydd Dduw a'm cynorthwya; pwy yw yr hwn a'm bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn; y gwyfyn a'u hysa hwynt.