1 Gwrandewch arnaf fi, ddilynwyr cyfiawnder, y rhai a geisiwch yr Arglwydd: edrychwch ar y graig y'ch naddwyd, ac ar geudod y ffos y'ch cloddiwyd ohonynt.
2 Edrychwch ar Abraham eich tad, ac ar Sara a'ch esgorodd: canys ei hunan y gelwais ef, ac y bendithiais, ac yr amlheais ef.
3 Oherwydd yr Arglwydd a gysura Seion: efe a gysura ei holl anghyfaneddleoedd hi; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden, a'i diffeithwch fel gardd yr Arglwydd: ceir ynddi lawenydd a hyfrydwch, diolch, a llais cân.
4 Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clustymwrandewch â mi, fy nghenedl: canys cyfraith a â allan oddi wrthyf, a gosodaf fy marn yn oleuni pobloedd.
5 Agos yw fy nghyfiawnder; fy iachawdwriaeth a aeth allan, fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd: yr ynysoedd a ddisgwyliant wrthyf, ac a ymddiriedant yn fy mraich.