11 Am hynny y dychwel gwaredigion yr Arglwydd, a hwy a ddeuant i Seion â chanu, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pennau: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith.
12 Myfi, myfi, yw yr hwn a'ch diddana chwi: pwy wyt ti, fel yr ofnit ddyn, yr hwn fydd farw; a mab dyn, yr hwn a wneir fel glaswelltyn?
13 Ac a anghofi yr Arglwydd dy Wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinistrio? a pha le y mae llid y gorthrymydd?
14 Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd, fel na byddo farw yn y pwll, ac na phallo ei fara ef.
15 Eithr myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a barthodd y môr, pan ruodd ei donnau: ei enw yw Arglwydd y lluoedd.
16 Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yng nghysgod fy llaw y'th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Fy mhobl ydwyt.
17 Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr Arglwydd gwpan ei lidiowgrwydd ef; yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef.