16 Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yng nghysgod fy llaw y'th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Fy mhobl ydwyt.
17 Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr Arglwydd gwpan ei lidiowgrwydd ef; yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef.
18 Nid oes arweinydd iddi o'r holl feibion a esgorodd; ac nid oes a ymaflo yn ei llaw o'r holl feibion a fagodd.
19 Y ddau beth hyn a ddigwyddasant i ti; pwy a ofidia trosot? dinistr a distryw, a newyn a chleddyf; trwy bwy y'th gysuraf?
20 Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mhen pob heol, fel tarw gwyllt mewn magl: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr Arglwydd, a cherydd dy Dduw.
21 Am hynny gwrando fi yn awr, y druan, a'r feddw, ac nid trwy win.
22 Fel hyn y dywed dy Arglwydd, yr Arglwydd, a'th Dduw di, yr hwn a ddadlau dros ei bobl, Wele, cymerais o'th law y cwpan erchyll, sef gwaddod cwpan fy llidiowgrwydd: ni chwanegi ei yfed mwy: