5 Agos yw fy nghyfiawnder; fy iachawdwriaeth a aeth allan, fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd: yr ynysoedd a ddisgwyliant wrthyf, ac a ymddiriedant yn fy mraich.
6 Dyrchefwch eich llygaid tua'r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod: canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a'r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a'i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a'm cyfiawnder ni dderfydd.
7 Gwrandewch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder, y bobl sydd â'm cyfraith yn eu calon: nac ofnwch waradwydd dynion, ac nac arswydwch rhag eu difenwad.
8 Canys y pryf a'u bwyty fel dilledyn, a'r gwyfyn a'u hysa fel gwlân: eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd, a'm hiachawdwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
9 Deffro, deffro, gwisg nerth, O fraich yr Arglwydd; deffro, fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a dorraist Rahab, ac a archollaist y ddraig?
10 Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr? yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i'r gwaredigion i fyned drwodd?
11 Am hynny y dychwel gwaredigion yr Arglwydd, a hwy a ddeuant i Seion â chanu, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pennau: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith.