9 Ac efe a wnaeth ei fedd gyda'r rhai anwir, a chyda'r cyfoethog yn ei farwolaeth; am na wnaethai gam, ac nad oedd twyll yn ei enau.
10 Eithr yr Arglwydd a fynnai ei ddryllio ef; efe a'i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wêl ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef.
11 O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt.
12 Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda'r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda'r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y troseddwyr.