1 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Cedwch farn, a gwnewch gyfiawnder: canys fy iachawdwriaeth sydd ar ddyfod, a'm cyfiawnder ar ymddangos.
2 Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn, a mab y dyn a ymaflo ynddo; gan gadw y Saboth heb ei halogi, a chadw ei law rhag gwneuthur dim drwg.
3 Ac na lefared y dieithrfab, yr hwn a lynodd wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd gan ddidoli a'm didolodd oddi wrth ei bobl; ac na ddyweded y disbaddedig, Wele fi yn bren crin.
4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y rhai disbaddedig, y rhai a gadwant fy Sabothau, ac a ddewisant yr hyn a ewyllysiwyf, ac a ymaflant yn fy nghyfamod i;
5 Ie, rhoddaf iddynt yn fy nhŷ, ac o fewn fy magwyrydd, le ac enw gwell na meibion ac na merched: rhoddaf iddynt enw tragwyddol, yr hwn ni thorrir ymaith.
6 A'r meibion dieithr, y rhai a lynant wrth yr Arglwydd, gan ei wasanaethu ef, a chan garu enw yr Arglwydd, i fod yn weision iddo ef, pob un a gadwo y Saboth heb ei halogi, ac a ymaflo yn fy nghyfamod;