1 Llefa â'th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel utgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u pechodau i dŷ Jacob.
2 Eto beunydd y'm ceisiant, ac a ewyllysiant wybod fy ffyrdd, fel cenedl a wnelai gyfiawnder, ac ni wrthodai farnedigaeth ei Duw: gofynnant i mi farnedigaethau cyfiawnder, ewyllysiant nesáu at Dduw.
3 Paham, meddant, yr ymprydiasom, ac nis gwelaist? y cystuddiasom ein henaid, ac nis gwybuost? Wele, yn y dydd yr ymprydioch yr ydych yn cael gwynfyd, ac yn mynnu eich holl ddyledion.
4 Wele, i ymryson a chynnen yr ymprydiwch, ac i daro â dwrn anwiredd: nac ymprydiwch fel y dydd hwn, i beri clywed eich llais yn yr uchelder.
5 Ai dyma yr ympryd a ddewisais? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? ai crymu ei ben fel brwynen ydyw, a thaenu sachliain a lludw dano? ai hyn a elwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr Arglwydd?
6 Onid dyma yr ympryd a ddewisais? datod rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri ohonoch bob iau?